Mae Sglein, a ffurfiwyd yn Ebrill 2005, yn cynnig ystod eang o hyfforddiant sgiliau busnes wedi’i deilwra a gwasanaeth trefnu digwyddiadau.
Mae Sglein wedi tyfu'n gyflym i fod yn gwmni llwyddiannus o dan stiwardiaeth ac arweiniad Sarah Mair Richards a Huw Thomas, perchnogion a chyfarwyddwyr y cwmni.
Mae arddull frwdfrydig ac egnïol Sarah a Huw yn gwneud Sglein yn wahanol. Mae ein hyblygrywdd, a’n cred mewn pwysigrwydd gwasanaeth personol yn arwain at ganlyniadau positif, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn nghalibr ein rhestr cleientiaid.
Sarah Mae Sarah’n credu’n gryf mewn mwynhau pob diwrnod, gwneud y mwyaf o botensial pobl a chreu amgylchedd gwaith arbennig sydd yn cael effaith ar y gwasanaeth cwsmer ydym ni’n ei roi. Mae hi o’r farn bod creu awyrgylch braf a chael agwedd bositif yn hollbwysig ar gyfer llwyddo.
Mae Sarah yn Hyfforddwr Perfformio cymwys, a dechreuodd ei gyrfa ym myd bancio, lle roedd ei dyletswyddau’n cynnwys cyfrifoldeb am ddadansoddi gofal cwsmer, monitro a dylanwadu ar berfformiad yn erbyn targedau a meini prawf eang a gweithredu a chyflwyno rhaglenni hyfforddiant i staff ar bob lefel. Mae ganddi hefyd brofiad eang ym meysydd rheoli a datblygu pobl ac mae hi wedi arwain nifer o dimau llwyddiannus. Mae Sarah’n gyfarwydd iawn â thechnegau hyfforddi llwyddiannus, ac mae wedi llunio a rhedeg nifer helaeth o gyrsiau a gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg ac yn ddwyieithog.
Gyda Huw, ffurfiodd Sarah gwmni Sglein, gyda’r nod o gynorthwyo cwmnïau ac unigolion i Sgleinio.
Huw Mae Huw yn mwynhau cyfarfod a gweithio gyda phobl ar hyd a lled Cymru, gan glywed a rhannu profiadau am fyd busnes, dwyieithrwydd a phopeth arall. Mae’n hoff o gynorthwyo i roi Sglein ar waith pobl, yn enwedig wrth iddynt ddelio gydag aelodau o’r cyhoedd.
Wedi gweithio’n helaeth ym myd gofal cwsmer mewn sawl sector, bu Huw’n gweithio ym maes datblygu economaidd am nifer o flynyddoedd, ble hogodd ei sgiliau cyfathrebu, ei sgiliau cyflwyno a’i sgiliau hyfforddi. Mae ganddo brofiad helaeth o wneud cyflwyniadau i gynulleidfaoedd o bob maint ac ar bob lefel, o blant ysgol cynradd i gyfarwyddwyr a phrif weithredwyr. Dros y blynyddoedd, mae Huw wedi llunio a chyflwyno llu o weithdai a chyrsiau llwyddiannus ymhob cwr o Gymru, ac mae’n mwynhau gwneud gwahaniaeth i waith pobl mewn pob math o sectorau.
Mae sgiliau a phrofiad Huw, ynghyd â rhai Sarah yn creu tîm cryf ac effeithiol sy’n cael boddhad o’u gwaith o roi Sglein ar berfformiad eraill.