*
*
*
 
*
*
* Croeso i'r Newyddion Diweddaraf - cyfle i gael gweld beth sydd wedi bod yn digwydd a beth sydd ar y gorwel.

15.09.08
Mae Sglein yn symud!
Mae Sglein yn symud i swyddfeydd newydd sbon yn Llynnoedd Delta, Llanelli ddydd Iau 18 Medi. Bydd y swyddfeydd newydd yn bencadlys cyfleus wrth i'r cwmni ddatblygu ac edrych ymlaen at y cyfnod nesaf yn ei dwf.
 

*

29.05.08
Ffiz a Biz yn concro Castell Caerdydd
Bydd Ffiz a Biz yn cyrraedd Canolfan Ddehongli newydd Castell Caerdydd ar Fehefin 19eg.
Bydd y noson yn cael ei noddi gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd, Quadrant Communications a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Sarah ar sarah@sglein.co.uk neu (01792) 886303.
 

*

29.05.08
Ffiz a Biz yng Ngwesty Parc y Strade
Mae Fizz & Biz yn dychwelyd i Sir Gaerfyrddin ar Fehefin 5ed ac mae'n debyg o fod yn ddigwyddiad poblogaidd dros ben. Bydd y noson yn cael ei chynnal yng Ngwesty Parc y Strade a'r noddwyr fydd Siambr Fasnach Sir Gar.
Os hoffech chi ddod i'r noson, cysylltwch a Sarah ar sarah@sglein.co.uk neu (01792) 886303.
 

*

03.04.08
Sglein yn dathlu 3ydd pen-blwydd
Roedd Mawrth 2008 yn garreg filltir arall i Sglein - 3ydd pen-blwydd y cwmni. Hoffem ni ddiolch i bawb ry'n ni wedi gweithio â nhw ers sefydlu Sglein ac i bawb ddaeth i'n helpu ni i ddathlu'r 3ydd Pen-blwydd yng Ngwesty'r Park Plaza. Ymlaen i'r 3 blynedd nesaf!
 

*

06.03.08
Sglein/Côr Meibion Llanelli yn cyd-ganu!
Mae Sglein yn hynod falch o fod yn cydweithio gyda Chôr Meibion Llanelli - côr byd-enwog sydd wedi canu ar lwyfannau ar draws y byd. Rydym ni nawr yn rheoli marchnata'r Côr ac rydym ni'n trefnu noson o adloniant, gwin a canapes yn eu cwmni yng Ngwesty'r Diplomat, Llanelli, nos Wener, 16eg Mai. Mae tocynnau ar gael am £10 trwy Sglein ar (07719) 310 686.
Gwefan y Côr - www.llanellimalechoir.co.uk
 

*

06.03.08
Sglein yn lansio menter Olympaidd
Mae Sglein yn falch o gael trefnu lansiad menter Super Schools Wales nos Wener, 25ain Ebrill yng ngwesty'r Royal, Caerdydd - www.theroyalhotelcardiff.com
Mae'r fenter, sy'n cyfuno hwyl, ffitrwydd ac unigolion adnabyddus o fyd y campau, wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ar draws Lloegr ers nifer o flynyddoedd ac mae nawr yn dod i Gymru dan arweiniad y medalydd Olympaidd Jamie Baulch a Matthew Hughes. Bydd Côr Meibion Llanelli yn rhan o adloniant y noson a bydd hefyd arwerthiant o eitemau chwaraeon casgladwy. Mae tocynnau yn £42.50 yr un ac mae byrddau ar gael ar gyfer grwpiau o ddeg. Mae pris y tocyn yn cynnwys derbyniad diod, pryd 3 chwrs ac adloniant ac maen nhw ar gael trwy Sglein ar (07719) 310 686.
www.superschoolswales.com
 

*

08.11.07
10fed Ffiz a Biz i'w gynnal fis Rhagfyr
Mae Ffiz a Biz yn cyrraedd carreg filltir ar 6 Rhagfyr, wrth i'r 10fed digwyddiad rhwydweithio gael ei gynnal yn Brazz, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd am 6pm. Bydd y noson yn cael ei noddi gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Trosol, cwmni cyfieithu ac isdeitlo mwyaf blaenllaw Cymru.
 

*

26.09.07
Sglein yn lansio siop Borders newydd
Nos Iau, 27ain Medi, mae Sglein yn lansio siop newydd Borders yng Nghaerdydd. Hon fydd trydedd siop y cwmni yng Ngymru ac fe'i lleolir yn hen adeilad David Morgan yn yr Aes.
Sglein sy'n gyfrifol am y noswaith gyn-agoriadol, fydd yn rhoi cyfle i westeion gael golwg ar y siop a chael eu diddanu.
 

*

25.06.07
Ail Ffiz a Biz yn Sir Gâr
Nos Iau, 28 Mehefin, cynhelir Ffiz a Biz yng Ngwesty'r Diplomat, Llanelli. Caiff y noson ei noddi gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Siambr Fasnach Sir Gâr.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Sarah ar sarah@sglein.co.uk
 

*

22.03.07
Ffiz a Biz yng Nghaerdydd
Bydd y Ffiz a Biz nesaf yn cael ei gynnal yng ngwesty'r Royal Hotel, Caerdydd ar 19 Ebrill am 6pm. Noddwyr y noson fydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Greenfield Media.

Am fanylion pellach, ebostiwch sarah@sglein.co.uk
 

16.01.07
Ffiz a Biz 1af Sir Gâr
Cynhaliwyd Ffiz & Biz 1af Sir Gâr ar 30 Tachwedd yng Ngwesty'r Cawdor, Llandeilo. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 100 o bobl wedi dod i rwydweithio ac i drafod dwyieithrwydd mewn busnes.

Mae Ffiz & Biz arall ar y gweill ar gyfer y Gwanwyn - cadwch lygad ar y wefan am fanylion!
 

*

31.08.06
UNO'r Gymraeg a'r sector preifat
Mae Sglein yn ffurfio partneriaeth newydd gyda Trosol, cwmni cyfieithu ac isdeitlo mwyaf blaenllaw Cymru, er mwyn cynnig siop-un-stop i gwmnïau a sefydliadau yn y sector preifat sydd am gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg.
Bydd UNO yn cynnig gwasanaethau sy'n cynnwys cyfieithu a phrawf-ddarllen; cyrsiau croeso a chyfarch; sesiynau Cymraeg mewn Busnes a Gofal Cwsmer dwyiethog, a chefnogaeth a chyngor ar wefannau, hysbysebion a deunydd marchnata dwyieithog.
Bydd lansiad swyddogol UNO ym Mae Caerdydd ar 27 Medi a bydd Alun Pugh, Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ymhlith y siaradwyr.
Am wybodaeth bellach ar UNO a'r hyn allwn ni ei gynnig i'ch busnes chi, cysylltwch â Sarah ar sarah@sglein.co.uk neu (01792) 886 303.
 

*

21.08.06
Spwcs - digwyddiad newydd ym mis Hydref!
Mae Sglein yn trefnu noson ychydig yn wahanol yng Ngwesty Plas Hyfryd, Arberth ar 6 Hydref.
Bydd Spwcs - noson Whodunnit? ddwyieithog gyda phryd tri chwrs & adloniant yn achlysur tei du ac yn gyfle i chwarae'r ditectif a mwynhau.
Pris tocyn yw £20 ac mae hyn yn cynnwys pryd tri chwrs ac adloniant.
Cysylltwch â Sarah neu Huw am fanylion pellach ar (01792) 886 303 neu sarah@sglein.co.uk
 

*

17.08.06
Ffiz a Biz ym mis Medi
Bydd y Ffiz a Biz nesaf yn cael ei gynnal yn Brazz yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 7 Medi am 6pm. Noddwyr y noson fydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Banc Barclays a Greenfield Media.

Mae Ffiz & Biz bellach wedi'i sefydlu'n ddigwyddiad poblogaidd a llwyddiannus iawn lle gall busnesau o bob math gwrdd â'i gilydd, rhwydweithio a thrafod manteision gweithredu'n ddwyieithog mewn awyrgylch anffurfiol, braf. 

Ebostiwch sarah@sglein.co.uk os hoffech chi wybod mwy.
 

*

27.04.06
Ffiz a Biz yn Abertawe
Cynhaliodd Sglein y pedwerydd digwyddiad Ffiz a Biz ym mis Ebrill. Hwn oedd y Ffiz a Biz cyntaf i’w gynnal y tu allan i Gaerdydd, a chafodd y noson ei noddi gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a'i chynnal yng ngwesty Morgans Abertawe ar nos Iau, 27 Ebrill.

Mae Ffiz a Biz yn ddigwyddiad unigryw, anffurfiol, sy’n cael ei drefnu a’i gynnal gan Sglein gyda’r bwriad o ddod â chwmnïau a sefydliadau ar draws Cymru at ei gilydd er mwyn rhwydweithio a thrafod dwyieithrwydd mewn busnes. Roedd yr ymateb i’r digwyddiad yn Abertawe yn bositif iawn, sy’n dangos bod galw am ddigwyddiad o’r math yma ar hyd a lled Cymru – ac mae Sglein yn gweithio ar hyn o bryd ar gyfres o ddigwyddiadau Ffiz a Biz i ateb y galw hwn.

Ebostiwch sarah@sglein.co.uk os hoffech chi wybodaeth bellach am Ffiz a Biz.
 

*

27.04.06
Sglein yn dathlu penblwydd cyntaf!
Mae Sglein, cwmni hyfforddi sgiliau busnes a threfnu digwyddiadau, wedi dathlu eu penblwydd cyntaf yn ddiweddar.

Mae’r penblwydd yn dod ar ddiwedd deuddeg mis llwyddiannus iawn i’r cwmni, sydd wedi ehangu eu gwasanaethau a’u rhestr cleientiaid o dan stiwardiaeth ac arweiniad Sarah Mair Richards a Huw Thomas, perchnogion a chyfarwyddwyr Sglein.
 

*

 
*
*
 
*
Safle gan Innivo
*